Close

Tai Haf Heb Drigolyn

Mae Tai Haf Heb Drigolyn yn fand lo-fi Cymraeg wedi'i leoli yng Nghanolbarth Cymru. Wedi'i ffurfio'n wreiddiol gan yr aelodau Izak Zjalic a Simon Richards yn ystod noson dyngedfennol ym Maes B, ymunodd yr aelod ychwanegol William P Jones wrth greu eu halbwm cyntaf 'Ein Albwm Cyntaf Ni'. Recordiwyd yr albwm ar draws tair stiwdio gartref wahanol o amgylch Machynlleth, gan fabwysiadu technegau recordio o ddefnydd yr Elephant 6 Collective gan ddefnyddio portastudio caset Tascam, a'i gyfuno gyda cynhyrchiad digidol. Mae'r cynnyrch yn gawl hislyd, melancolaidd o hiraeth lo-fi Cymraeg, gan gyfuno dylanwadau ar draws indie, gwerin a phop hypnagogig. Yn dilyn ei ryddhau, mae'r band yn dechrau cyfres o sioeau byw, gan efelychu haenau trwchus o weadau anghyson eu deunydd recordiedig trwy ddull DIY sy'n plethu gitarau, ambience, nodweddion electroneg a sŵn. Mae sioeau byw hefyd yn cynnwys cefnogaeth weadol gan Liam Potter (o Clwb Chess) a Hedydd Ioan (o skylrk.). Ar hyn o bryd mae'r band yn recordio eu hail albwm, gan obeithio ei ryddhau rywbryd eleni.