Mae "Now & Then" yn gyfeillgarwch annhebygol rhwng Pookie instamodel-awyr a chanddi obsesiwn â’r cyfryngau cymdeithasol a Nancy, hen wreigan gref ddi-nonsens. Dyma wrthdaro rhwng y cenedlaethau sy’n llawn comedi slapstic, acrobateg awyr a stori sy’n twymo’r galon am gysylltu mewn byd digidol.