Mari Hwyr! yw'r arddangosfa ‘ar ôl iddi dywyllu’ sy'n dathlu cylch blynyddol bywyd ac arferion a defodau gwerin Cymru ar droad y tymhorau. Archwiliad gwerin o rai o draddodiadau hynaf Cymru, sy'n rhychwantu'r heuldroeon a'r cyhydnosau, y Fari Lwyd a'r Cadi Ha - a hynny mewn perfformiad egnïol a chyfareddol, sy'n gyfuniad beiddgar a hudolus o ddawns, dylunio, cerddoriaeth a syrcas, gydag Osian Meilir yn dod â rhai o artistiaid dawns a syrcas mwyaf blaenllaw Cymru at ei gilydd ar gyfer y premier hudol hwn.