Yn wreiddiol o'r Felinheli, mae ei magwraeth ar lannau'r Fenai yn ddylanwad sy'n llifo'n gyson drwy eiriau Martha Elen. Yn cyfuno gweadau cynnil folk-americana gyda haenau lleisiol ac alawon bachog alt-pop, mae lle i ganfod cysur rhywle rhwng y dwys a'r ysgafn yn ei chaneuon.
Daw'r traciau atmosfferig a'r elfennau americana o gydweithio gyda'r cerddorion Gethin Elis, Iestyn Jones (y ddau yn aelodau o'r band WRKHOUSE), Samantha Grace a Jack Boles. Ar ôl cyfnod o recordio gyda chynhyrchydd Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) yn Stiwdio Sain, mae Martha a’r band yn edrych ymlaen at ryddhau mwy o ganeuon yn dilyn llwyddiant y sengl gyntaf ‘Canu Cloch’ a rhyddhawyd ym mis Ebrill gyda Recordiau I Ka Ching.