Ymunwch â Charlotte Brontë ar daith ffonig dros rostiroedd Haworth a Swydd Efrog a gwrandewch ar seiniau’r hyn a ffurfiodd fywydau’r chwiorydd Brontë. Bydd ubain dolefus y gwynt yn Top Withens, tincial tawel y rhaeadrau gerllaw a lleisiau angylaidd Beyoncé...yn eich dilyn ar eich siwrnai.