Dyma dapestri o’r gair llafar amlieithog, o ddawns ddeinamig ac ymasiad cerddoriaeth enaid/ffync/jazz Kitty Crawford. Hanes tair o ferched o wahanol wledydd – rhyfelwraig, iachawraig ac arweinydd – sydd ar siwrnai er mwyn dod o hyd i anturiaethau newydd nes bod gelyn annisgwyl yn eu cymell i sefyll gyda’i gilydd ac ymladd i amddiffyn y rhyddid i ddewis.