12/08/09
Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd yng nghysgod mynydd Pen-y-fâl yr haf hwn - rhywbeth hynod, hudolus, heb ei ail. Lledaenwch y neges – mae’r Ŵyl Gymreig ar ei ffordd.

Gŵyl y Dyn Gwyrdd yw gŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau flynyddol fwyaf Cymru, sy’n dathlu drygioni a direidi. Mae’n denu 10,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae’n digwydd yn eich gardd gefn chi.
Mae yna rywbeth i bawb yma, ac yn dilyn traddodiad y Dyn Gwyrdd rydym wedi trefnu gwledd o ddigwyddiadau arbennig i gadw’r tân ynghyn ym Mannau Brycheiniog eleni.
CERDDORIAETH
Bydd cyn-ganwr Gorky’s Zygotic Mynci, a ffefryn y Dyn Gwyrdd, Euros Childs, yn ymddangos gyda Norman Blake o Teenage Fanclub i arddangos y talent arbennig sydd ganddynt i ysgrifennu caneuon gyda’u prosiect ar y cyd - Jonny. Bydd cyn-aelod arall o Gorky’s, Richard James, hefyd yngalw heibio i gyfrannu at hwyl yr ŵyl tra y bydd band gwerin o Gaerdydd, The Gentle Good, yn cyflwyno’r caneuon gorau o’u halbwm arobryn cyntaf While You Slept I Went Out Walking.
Cofiwch wylio perfformiad swynol Cate Le Bon, a fydd yn chwarae cerddoriaeth ffres a newydd y mae disgwyl mawr amdani yn dilyn ei chyfraniad at albwm Gruff Rhys a’r band Neon Neon - albwm a gafodd ei enwebu ar gyfer gwobr gerddoriaeth Mercury. Bydd y ddeuawd ddawns enwog, sydd hefyd wedi cydweithio â’r SFA, Llwybr Llaethog, yn perfformio, yn ogystal â 9Bach, Sibrydion, Right, Hand Left Hand, Sweet Baboo, Meilir Tomos, No Thee No Ess, Ruby Samba, Pagan Wanderer Lu a Fuzzbirds.
Byddwn hefyd yn cyflwyno cantorion a bandiau Cymreig newydd gan gynnwys Lindsey Leven, The Me Me Me’s, The Lunar-Cyclist, Cakehole Presley a Captain Accident.
Bydd cyflwynwyr Cymreig Radio 1 yn yr ŵyl hefyd, sef Huw Stephens (sydd wedi bod yn hyrwyddo’r Dyn Gwyrdd ers blynyddoedd) a Beth Elfyn, a fydd yn cyflwyno’r bandiau, yn gwneud adroddiadau ac yn cymysgu â’r gynulleidfa.
CELF, LLENYDDIAETH, COMEDI A PHLANT
Bydd y grŵp celf o Gaerdydd, Peaceful Progress, yn paentio arddangosfeydd celf deniadol yng nghanol maes yr ŵyl yn ogystal â chyflwyno Peaceful Progress Day Of Music sef digwyddiad carbon isel ar y llwyfan arloesol, y Solar Powered Caravan Stage. Bydd eu tîm o DJs hefyd yn mynd yn wyllt ar safle Parc Glanwysg.
Bydd y band saith aelod penigamp, The Fresh-ness Monsters, yn cyflwyno’u sioe ryngweithiol sy’n gwthio ffiniau, Gardd Einstein, sy’n cynnwys seiniau arbrofol a dawnsio arbennig. Bydd eu perfformiad hefyd yn cynnwys dawnsio robotaidd a grëwyd yn arbennig ar gyfer y Dyn Gwyrdd.
Gallwch weld y cylchgrawn amlgyfrwng Cymraeg, Tu Chwith, prosiect adrodd stori unigryw ar y cyd rhwng Howard Marks a Keith Allen o’r enw I Sing Of A Maiden a noson arloesol o luniau symudol a thraciau sain yn y Babell Ffilmiau, gyda’r cyfarwyddwr Kieran Evans yn cyflwyno ffilmiau byr gan fyfyrwyr ffilmiau dogfen o Ysgol Ffilm Ryngwladol Casnewydd.
Cewch hwyl a sbri gyda chomediwyr o Gymru sydd wedi ennill gwobrau, Mab Jones, Chris Corcoran, Rhodri Rhys a Tudur Owen - sef un o’r ychydig gomediwyr proffesiynol dwyieithog yng Nghymru.
Bydd y cynhyrchydd rhaglenni dogfen o Gymru, Richard Thomas, yn mynd âchriw ffilmio ifanc o amgylch safle’r ŵyl gan gyfweld artistiaid, aelodau’r criw a’r ymwelwyr. Bydd grŵp celf gymunedol flaengar Crucywel, Arts Alive, yn edrych ar greadigrwydd a chwarae gan ddefnyddio deunydd sydd wedi’i ailgylchu, tra bydd Oxfam Cymru yn dysgu plant am fyw’n wyrdd trwy raglen ddychmygus o straeon a siarad.
BWYD A DIOD
Mae yna wledd i’w chael yn yr ŵyl. Beth am gael blas ar ein selsig cig oen a wnaed o gig defaid Glanwysg, cael blas ar stondin gacennau a selsig enwog Ysgol Cwyndu, blasu steciau, byrgyrs a brechdanau cig carw, neu fynd draw i weld Urban Chef y BBC, Oliver Rowe, yn defnyddio ac yn paratoi bwyd lleol yn ei fwyty, Konstam, ar safle’r ŵyl? Neu beth am roi cynnig ar wisgi lleol Dancy Jones, cwrw Dyffryn Gwy, cwrw Bragdy Artisan Caerdydd, Seidr Afal Taffi Cymreig neu Wisgi Cymreig Penderyn?
Arhoswch yng Nghymru’r haf hwn – ymwelwch â’r Dyn Gwyrdd. Bendigedig.
GREEN MAN 2009 – IT’S A WELSH THING
Something strange is going on beneath the beautiful backdrop of Sugarloaf Mountain this summer – something mysterious, something mystical, something magical. The word is out …let’s just say it’s a Welsh ting.
Green Man is Wales’ biggest annual music and arts festival, a celebration of mischief and misrule attracting 10,000 party-goers every year and it’s happening in your own back garden.
There’s a little something for everyone, but in true Green Man style we’ve lined up some extra special treats to keep the home fires burning in the Brecon Beacons this year.
MUSIC
Gorky’s Zygotic Mynci legend, solo star and Green Man favourite Euros Childs is teaming up with Teenage Fanclub’s Norman Blake for a masterclass in modern songwriting with their unmissable collaboration Jonny. Euros’ former bandmate Richard James will also be dropping by to spread a little festival sunshine while Cardiff folksters The Gentle Good will unfold the manifest charms of acclaimed debut album While You Slept I Went Out Walking.
Don’t miss the enchanting Cate Le Bon, playing eagerly-anticipated new material fresh from her Mercury Music Prize-nominated stint with Gruff Rhys in Neon Neon, legendary dance duo and SFA collaborators Llwybr Llaethog and top sets from the lovely 9Bach, Sibrydion, Right, Hand Left Hand, Sweet Baboo, Meilir Tomos, No Thee No Ess, Ruby Samba, Pagan Wanderer Lu and Fuzzbirds.
Plus we’ve got the cream of emerging Welsh talent including Lindsey Leven, The Me Me Me’s, The Lunar-Cyclist, Cakehole Presley and Captain Accident.
Keep your eyes peeled too for Radio 1’s golden couple Huw Stephens (a long-standing Green Man champion) and Beth Elfyn introducing acts, reporting from the front line and generally going with the flow in the crowd.
ART, LITERATURE, COMEDY AND KIDS
Cardiff-based arts collective Peaceful Progress will be painting an eye-grabbing arts installation at the centre of the festival, hosting the carbon-friendly Peaceful Progress Day Of Music on the pioneering Solar Powered Caravan Stage and letting their crack team of DJs run amok across the Glanusk Park site.
Breathtaking seven-piece groove machine The Fresh-ness Monsters will unleash their bass-driven, beatboxing, breakdancing brilliance in a boundary-pushing interactive performance in Einstein’s Garden, complete with Robot stylings honed especially for Green Man.
There’s Welsh languade multi media with Tu Chwith, a once-in-a-lifetime literary storytelling collaboration between Howard Marks and Keith Allen entitled I Sing Of A Maiden and a cutting edge night of moving pictures and soundtracks in the Film Tent with director Kieran Evans featuring exclusive shorts from Newport International Film School documentary students.
Tickle your ribs with award-winning Welsh stand-ups Mab Jones, Chris Corcoran, Rhodri Rhys and Tudor Owen – one of Wales’ only bilingual pro comics.
Welsh documentary maker Richard Thomas will be taking a young people’s film crew to roam the festival site interviewing artists, crew and revellers, Crickhowell’s very own progressive community arts collective Arts Alive will explore creativity and play using reclaimed and recycled materials while Oxfam Cymru will expand children’s green knowhow with an imaginative programme of storytelling and spoken word.
FOOD AND DRINK
Where to start? Fill a hole with lamb sausages from Glanusk-reared sheep, Cwyndu School’s legendary cake and sausage stall, Welsh Venison steaks, burgers and sandwiches or the BBC’s very own Urban Chef Oliver Rowe sourcing and preparing local food for his on-site festival restaurant Konstam? Or why not whet the whistle Dancy Jones local bourbon, Wye Valley Ale, Artisan Brewery Cardiff beer, Toffee Apple Welsh Cider and Penderyn Welsh Whisky?
Keep it Welsh this summer - keep it Green Man. Tidy.
